Politics for the Many

Also available in: English

Cynnwys

    Rhagarweiniad

    Fis diwethaf arwyddodd Llafur gytundeb cydweithredu pwysig gyda Phlaid Cymru.

    Mae’r cytundeb yn cyflwyno rhaglen radical i’w chyflawni gan Lafur Cymru mewn cydweithrediad ag aelodau Plaid Cymru yn y Senedd.

    Mae’r cytundeb yn ymwneud â meysydd allweddol fel ynni a hinsawdd; hefyd tai, ynghyd ag ymrwymiad i Ddiwygio Etholiadau’r Senedd. Mae’r cynigion hyn yn cynnwys ehangu’r siambr i rhwng 80 a 100 aelod, wedi’u hethol o dan system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu fwy felly – na’r un gyfredol, ochr-yn-ochr â gwneud cwotâu rhywedd yn gyfraith am y tro cyntaf.

    Nawr, fel rhan o’r broses o gytuno a chyflawni’r diwygiadau hanfodol hyn yn y Senedd, mae Pwyllgor Gwaith Lafur Cymru yn ymgynghori ag aelodau’r blaid a’r rhai sy’n gysylltiedig â hi ar sut olwg ddylai fod ar y diwygiadau hynny, a pha system etholiadol fydd yn gwasanaethu Cymru a Llafur orau. Yn yr ymgynghoriad hwnnw, maent wedi amlinellu tri opsiwn ar gyfer system bleidleisio i gefnogi Senedd fwy; System Aelod Ychwanegol (AMS) wedi’i haddasu, y Rhestr Hyblyg neu’r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).

    Er mwyn amlinellu sut olwg fyddai ar Senedd fwy, wedi’i hethol trwy STV, rydym wedi mynd ati i fodelu canlyniadau gan ddefnyddio cyfuniad o arolygon YouGov a chanlyniad y bleidlais ar gyfer y rhestrau rhanbarthol yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.

    Methodoleg

    Mae’n bwysig nodi ei bod yn amhosibl rhagweld canlyniad etholiad penodol gyda sicrwydd llwyr, pe bai wedi’i gynnal gan ddefnyddio system bleidleisio wahanol. Mae’r rhagamcanion sy’n dilyn yn arwydd o sut olwg y gallai fod ar ganlyniadau etholiad Senedd 2021 – a gynhaliwyd o dan y System Aelod Ychwanegol (AMS) – pe bai’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) wedi’i defnyddio. Mae’n amhosibl, wrth gwrs, rhagweld yr amrywiadau eraill a fyddai’n debygol o ddigwydd yn sgil newid i system etholiadol amgen, megis newidiadau yn ymddygiad pleidleiswyr, ymgyrchu gan y pleidiau, neu nifer y pleidiau sydd ag ymgeiswyr yn sefyll.

    Er mwyn llunio ein rhagamcanion ar gyfer STV, roedd angen creu etholaethau aml-aelod newydd. Parwyd pob un o’r 40 etholaeth gyfredol, ar sail y-Cyntaf-i’r-Felin (FPTP) ar gyfer y Senedd, gan ffurfio 20 etholaeth aml-aelod STV, pob un â rhwng tri a chwe aelod, yn dibynnu ar nifer yr etholwyr yn yr etholaeth STV a chyfanswm y seddi yn y Senedd – lluniwyd amcangyfrifon ar gyfer Senedd o 80, 90 a 100 aelod. Penderfynwyd creu’r 20 etholaeth STV trwy baru’r 40 etholaeth FPTP gyfredol am ddau reswm. Yn gyntaf, mae’n adlewyrchu’r agwedd a gymerwyd yn adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio’r Cynulliad, ac yn ail oherwydd mai hwn oedd y ffordd symlaf o ddefnyddio canlyniadau etholiad sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y Senedd. Nid oes gennym farn gadarn ar y ffiniau penodol gorau i’r etholaethau ar gyfer Senedd a etholir trwy STV.

    Cawsom gyfrif pleidleisiau’r rhestrau rhanbarthol ar gyfer pob un o 40 etholaeth y Senedd ar sail FPTP, gan y Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol priodol. Rydym yn ystyried bod y pleidleisiau ar gyfer y rhestrau rhanbarthol yn fesur gwell, at ein dibenion ni, na phleidlais etholaeth FPTP, gan fod y bleidlais ar gyfer y rhestr ranbarthol yn cynrychioli rhan gyfrannol y system AMS gyfredol. Yna cyfrifwyd pleidleisiau’r pleidiau a’u cyfran o’r bleidlais ar gyfer pob etholaeth STV.

    Er bod y rhestr ranbarthol yn cynrychioli rhan gyfrannol y system AMS, efallai bod rhai pobl yn dal i bleidleisio’n dactegol ar gyfer y rhestr ranbarthol. Er enghraifft, mae’n bosib y byddai pleidleisiwr yn unrhyw un o dri rhanbarth De Cymru wedi sylweddoli ei bod yn annhebygol iawn y byddai Llafur mewn sefyllfa i ychwanegu ASC o’r ‘rhestr ranbarthol’ ac felly’n penderfynu rhoi eu pleidlais ar gyfer y rhestr ranbarthol i blaid wahanol, hyd yn oed os mai Llafur oedd eu dewis cyntaf. Mewn ymgais i liniaru hyn rhywfaint a cheisio cael ymdeimlad o ddewisiadau cyntaf dilys pleidleiswyr, comisiynwyd arolwg barn YouGov ar ôl yr etholiad, gan ofyn pa blaid fyddai wedi bod yn ddewis cyntaf iddynt yn yr etholiad. Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer yr arolwg hwn rhwng y 7fed a’r 11eg Mai 2021, gyda sampl oedd yn cynnwys 1039 o oedolion (16+) yng Nghymru.1Dyma’r cwestiynau a holwyd gan YouGov: “Nodwch sut y byddech chi wedi pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru pe bai rhywun wedi gofyn i chi restru’r pleidiau yn nhrefn eich dewis. Rhowch 1 ar gyfer eich plaid ddewisol, yna 2 ar gyfer yr ail blaid o’ch dewis, yna 3 ar gyfer eich trydydd* dewis, a.y.b. Cewch raddio cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ag y dymunwch. Os na fyddech chi’n pleidleisio, neu ddim yn gwybod sut y byddech chi’n pleidleisio, ticiwch y blychau isod.” *Roedd y dewisiadau cyntaf a’r ail ddewisiadau’n ddigonol ar gyfer ein modelu.

    Yna fe ddefnyddion ni’r data dewis cyntaf o arolwg YouGov i addasu’r canlyniadau ym mhob etholaeth STV, mewn ymgais i gael darlun ychydig yn fwy cywir o ddewis cyntaf dilys pleidleiswyr. Cymharwyd sut roedd pobl yn dweud eu bod nhw wedi pleidleisio yn adran rhestr ranbarthol etholiad y Senedd, gyda’r blaid y gwnaethon nhw ei rhestru fel eu dewis cyntaf yn arolwg YouGov ac yna addasu yn unol â hynny. Ar gyfer y tair plaid fwyaf (Llafur, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru) cyfrifwyd y canlyniadau wedi’u haddasu ar sail ranbarthol, gan adlewyrchu’r data pleidleisio ym mhob un o’r pum rhanbarth etholiadol. Ar gyfer y pleidiau eraill, defnyddiwyd data pleidleisio o bob rhan o Gymru i addasu eu canlyniadau, gan nad oedd digon o bleidleiswyr yn yr arolwg i addasu’r ffigurau mewn ffordd ystyrlon ar sail ranbarthol.

    Er mwyn helpu gyda rhan nesaf y broses, sef dyrannu seddi i etholaethau STV, gofynnwyd hefyd i’r rhai a ymatebodd i arolwg YouGov pwy fyddai’r ail blaid o’u dewis yn etholiad y Senedd. Yna aethom ymlaen i ddyrannu seddi gan ddefnyddio’r cwota droop, sy’n golygu, er mwyn ennill sedd, bod yn rhaid i ymgeisydd dderbyn pleidlais sy’n cyfateb i gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd wedi’u rhannu â nifer y seddi sydd i’w dyrannu, plws un. Er enghraifft, mewn etholaeth tair sedd, mae’r cwota droop yn cyfateb i 25%. Byddai unrhyw blaid a gyrhaeddodd y cwota’n cael sedd. Byddai seddi’n cael eu dyfarnu ar sail faint o gwotâu cefnogaeth (e.e. cyfuniadau o 25%) a enillodd y blaid honno. Felly, byddai plaid a enillodd 50% o’r bleidlais mewn etholaeth tri aelod yn cael dwy sedd.

    Os na chyrhaeddodd unrhyw blaid y cwota, byddai’r blaid â’r gyfran isaf o’r bleidlais yn cael ei dileu, a byddai ei chyfran o’r bleidlais yn cael ei hail-ddosbarthu i bleidiau eraill gan ddefnyddio fformiwla yn seiliedig ar ganlyniadau ail ddewis o arolwg YouGov. Byddai’r broses hon yn parhau nes bod yr holl seddi wedi’u dyrannu. Mewn rhai achosion wrth ddyfarnu’r sedd olaf, os nad oedd unrhyw blaid wedi cyrraedd cwota llawn, yna byddai’r sedd yn cael ei phennu i’r blaid â’r gyfran uchaf o’r bleidlais.

    Dim ond brasamcan o ddyraniad seddi a throsglwyddiadau o dan STV yw’r modelu hwn wrth gwrs, ac mae’n dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddewisiadau (mewn etholiad STV yn y byd go iawn mae’n debygol y byddai pleidleisiwr yn graddio mwy na dau ymgeisydd / plaid). Ond mae’n rhoi syniad o sut y byddai pleidleisiau’n trosglwyddo o dan STV ac yn cynnig mewnwelediad i sut y byddai dewisiadau pleidleiswyr yn cael eu trosi’n seddi.

    Dyma’r cwestiynau a holwyd gan YouGov: “Nodwch sut y byddech chi wedi pleidleisio yn etholiad Senedd Cymru pe bai rhywun wedi gofyn i chi restru’r pleidiau yn nhrefn eich dewis. Rhowch 1 ar gyfer eich plaid ddewisol, yna 2 ar gyfer yr ail blaid o’ch dewis, yna 3 ar gyfer eich trydydd* dewis, a.y.b. Cewch raddio cynifer neu gyn lleied o ddewisiadau ag y dymunwch. Os na fyddech chi’n pleidleisio, neu ddim yn gwybod sut y byddech chi’n pleidleisio, ticiwch y blychau isod.” *Roedd y dewisiadau cyntaf a’r ail ddewisiadau’n ddigonol ar gyfer ein modelu.

    Canlyniadau

    Gan ddefnyddio’r fethodoleg uchod rydym wedi modelu canlyniadau Senedd 80, 90 a 100 sedd wedi’i hethol o dan STV. Mae’r canlyniadau llawn gydag etholaethau a chyfrifiadau ar gael.

    Senedd ag 80 o aelodau

    An STV projection to an 80 seat Senedd
    PlaidCeidwadwyrLlafurDem RhyddPlaid CymruCyfanswm y Seddi
    Cyfanswm y seddi o dan fodelu STV273421780
    Cyfran y seddi o dan fodelu STV33.75%42.50%2.50%21.25%100.00%

    Senedd â 90 o aelodau

    An STV projection to an 90 seat Senedd
    PlaidCeidwadwyrLlafurDem RhyddPlaid CymruCyfanswm y Seddi
    Cyfanswm y seddi o dan fodelu STV293722290
    Cyfran y seddi o dan fodelu STV32.22%41.11%2.22%24.44%100.00%

    Senedd â 100 o aelodau

    An STV projection to an 100 seat Senedd
    PlaidCeidwadwyrLlafurDem RhyddPlaid CymruCyfanswm y Seddi
    Cyfanswm y seddi o dan fodelu STV2947222100
    Canran y seddi o dan fodelu STV29.00%47.00%2.00%22.00%100.00%
    Share this: